Job Description
Cynorthwywyr Gofal Iechyd / Gweithwyr Cymorth SIR Y FFLINT
Gall eich sgiliau mewn gofal drawsnewid dyfodol person ifanc.
Dechreuwch eich taith fel Gofalwr Maeth Pontio Lleol heddiw.
Ydych chi eisoes yn gwneud gwahaniaeth bob dydd — yn cefnogi pobl trwy eich gwaith mewn gofal iechyd, cartrefi gofal, neu rolau cymorth cymunedol?
Ydych chi erioed wedi meddwl am ddefnyddio eich profiad i newid bywyd person ifanc, o’ch cartref eich hun?
Gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, gallwch chi wneud hynny.
Gallwch gymryd y sgiliau sydd gennych eisoes – tosturi, tawelwch, ymrwymiad, a’u defnyddio lle mae eu hangen fwyaf: cynnig cartref sefydlog, cefnogol i berson ifanc yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu bywyd.
Mae hyn yn fwy na maethu traddodiadol.
Dyma Faethu Pontio Lleol, rôl a allai fod yr un fwyaf gwobrwyol ac ystyrlon a gawsoch chi erioed.
Beth yw Maethu Pontio Lleol?
Mae ‘Lleol’ yn golygu o fewn eich ardal, ac mae’r cysylltiad lleol hwnnw’n golygu popeth i ymdeimlad person ifanc o berthyn, hunaniaeth a dyfodol.
Ni yw’r gwasanaeth maethu awdurdod lleol yn Sir y Fflint, nid asiantaeth breifat. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n canolbwyntio’n llawn ar blant o’n cymunedau ni, ac yn dod o hyd i’r cartrefi cywir iddynt, yma.
Mae angen mwy na gofal maeth traddodiadol ar rai pobl ifanc.
Efallai eu bod yn symud ymlaen o ofal preswyl neu amgylcheddau cymorth uchel a bod angen cymorth tawel, amyneddgar arnynt i’w helpu i setlo i fywyd teuluol.
Dyna lle gall eich profiad a’ch sgiliau chi wneud gwahaniaeth mawr.
Allech chi fod yn Ofalwr Maeth Pontio Lleol?
Rydym yn chwilio am bobl â chefndir gofalgar, pobl fel cynorthwywyr gofal iechyd, gweithwyr cymorth, gofalwyr, a’r rhai sydd â phrofiad bywyd o gefnogi eraill.Pobl fel chi.
Os gallwch gynnig:
- Cartref tawel, meithringar
- Eich gofal a’ch ymrwymiad llawn amser
- Y gallu i adeiladu perthnasoedd sefydlog, llawn ymddiriedaeth
Yna byddwn gyda chi, bob cam o’r ffordd.
Pecyn cymorth llawn sy’n adlewyrchu eich ymrwymiad
Rydym yn cydnabod yr ymroddiad a’r sgiliau arbenigol y mae’r rôl hon yn galw amdanynt. Dyna pam rydym yn cynnig cymorth cynhwysfawr, lwfansau hael, a hyfforddiant wedi’i deilwra i’ch helpu i lwyddo.
- Pecyn cymorth ariannol blynyddol o £50,000
- Hyd at £258.79 o lwfans maethu wythnosol (dros £13,453 bob blwyddyn)
- Lwfansau ychwanegol ar gyfer penblwyddi, gwyliau a’r Nadolig (hyd at £1,035 bob blwyddyn)
A hefyd:
- Cymorth un-wrth-un parhaus gan eich tîm Maethu Cymru Sir y Fflint lleol
- Gofalwr cymorth cysylltiedig i roi cyngor ymarferol a chefnogaeth
- Hyfforddiant therapiwtig arbenigol i fagu eich hyder
- Grwpiau cymorth cymheiriaid a gweithgareddau lles rheolaidd
- Goystyngiad o 50% yn y Dreth Gyngor
- Aelodaeth o’rCerdyn Golau Glas i gael gostyngiadau ledled y DU
- Gwobrwyon a chydnabyddiaeth drwy’r ap CareFriends
- Aelodaeth am ddim yn y Rhwydwaith Maethu, a mynediad i’r gymuned cymorth Mockingbird (lle bo ar gael)
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
- Â phrofiad proffesiynol neu bersonol o gefnogi plant neu bobl agored i niwed
- Yn gallu darparu cartref sefydlog, meithringar
- Ag ystafell wely sbâr i berson ifanc
- Yn dal trwydded yrru lawn
- Yn gallu gofalu’n llawn amser
- Yn fodlon dysgu, adfyfyrio a gweithio’n agos â’n tîm
Rydym fel arfer yn gofyn nad oes gennych blant ifanc o dan 16 oed yn byw gartref, ond mae pob sefyllfa’n cael ei hystyried yn unigol yn rhan o’r broses baru.
Gwnewch wahaniaeth parhaol — yn union lle rydych chi’n byw.
Rydych chi eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn eich gwaith o ddydd i ddydd.
Nawr, gallwch gael effaith fwy fyth, a mwy personol, trwy gynnig teulu, perthyn, a dyfodol llawn gobaith i berson ifanc.
Mae Maethu Cymru Sir y Fflint yma i’n cymuned, i’n pobl ifanc, ac i chi.