Job Description
Gallai eich profiad gofal preswyl newid dyfodol person ifanc.
Cymerwch eich cam nesaf gyda Maethu Pontio Lleol.
Ydych chi wedi treulio amser yn gweithio mewn cartrefi plant preswyl, llety â chymorth, neu amgylcheddau gofal arbenigol?
Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth fyddai dod â’r profiad hwnnw adref, gan gynnig lle parhaol a sefydlog yn eich amgylchedd teuluol eich hun i berson ifanc sy’n gadael gofal preswyl?
Gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, gallwch chi wneud hynny.
Mae gennych eisoes y rhinweddau pwysicaf – amynedd, cysondeb, a dealltwriaeth ddofn o bobl ifanc sydd ag anghenion mwy cymhleth. Nawr, gallwch ddefnyddio’r sgiliau hynny lle mae eu hangen fwyaf: darparu cartref meithringar a chefnogol i berson ifanc ar drobwynt hanfodol yn eu bywyd.
Mae hyn yn fwy na maethu traddodiadol.Maethu Pontio Lleol yw hyn – rôl arbenigol a allai fod yn rôl fwy gwobrwyol i chi nag unrhyw un a gawsoch o’r blaen.
Beth yw Maethu Pontio Lleol?
Mae ‘Lleol’ yn golygu ‘o fewn eich ardal’ — ac mae bod yn lleol yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Nid ydym yn asiantaeth faethu breifat. Ni yw gwasanaeth maethu awdurdodau lleol Sir y Fflint, sy’n canolbwyntio’n llawn ar blant a phobl ifanc yn ein cymunedau ein hunain. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n gweithio i ddod o hyd i’r cartrefi cywir, yma yn Sir y Fflint – gyda phobl fel chi, sy’n deall gwerth perthyn a chadw mewn cysylltiad â lleoedd cyfarwydd, ysgolion a rhwydweithiau cymorth.
Mae angen mwy na gofal maeth traddodiadol ar rai pobl ifanc.
Efallai y byddant yn symud ymlaen o leoliadau gofal preswyl neu gymorth uchel, ac mae angen amser, gofod, ac arweiniad medrus, tawel arnynt i’w helpu i addasu i fywyd mewn cartref teuluol.
Dyna lle gall eich profiad chi wneud gwahaniaeth mawr.
Allech chi ddod yn Ofalwr Maeth Pontio Lleol?
Rydym yn chwilio’n arbennig am bobl sydd wedi gweithio mewn:
- Gofal plant preswyl neu lety â chymorth
- Gwaith ieuenctid, lleoliadau therapiwtig neu rolau gofal cymorth uchel
- Neu sydd â phrofiad personol o ofalu am bobl ifanc agored i niwed
Rydym yn chwilio am bobl sydd â’ch profiad chi ac sy’n gallu cynnig:
- Cartref tawel, meithringar ag iddo strwythur
- Eich gofal a’ch ymrwymiad llawn amser
- Y gallu i adeiladu perthnasoedd sefydlog, llawn ymddiriedaeth
Pecyn cymorth sy’n cyfateb i’ch ymrwymiad
Mae hon yn rôl arbenigol — a byddwn yn eich cefnogi chi fel gweithiwr proffesiynol.
- Pecyn cymorth ariannol blynyddol o £50,000
- Hyd at £258.79 o lwfans maethu wythnosol (dros £13,453 yn flynyddol)
- Lwfansau Ychwanegol ar gyfer penblwyddi, gwyliau a’r Nadolig (hyd at £1,035 bob blwyddyn)
Byddwch hefyd yn derbyn:
- Cefnogaeth barhaus 1-i-1 gan ein tîm lleol
- Gofalwr cymorth ymroddedig i gael cymorth a chyngor ymarferol
- Hyfforddiant therapiwtig arbenigol i fagu eich hyder
- Grwpiau cymorth cymheiriaid a gweithgareddau lles rheolaidd
- Gostyngiad o 50% yn y Dreth Gyngor
- Cerdyn Golau Glas ar gyfer gostyngiadau
- Cydnabyddiaeth a gwobrwyon trwy’r ap CareFriends
- Aelodaeth yn y Rhwydwaith Maethu a’r gymuned cefnogi Mockingbird (lle bo ar gael)
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
- Â phrofiad mewn gofal preswyl neu mewn cefnogi pobl ifanc agored i niwed
- Yn gallu darparu cartref sefydlog, tawel, llawn amser
- Ag ystafell wely sbâr
- Yn dal trwydded yrru lawn a glân yn y DU
- Yn fodlon hyfforddi, adfyfyrio a gweithio mewn tîm
Rydym fel arfer yn gofyn nad oes gennych blant dan 16 oed yn byw gartref, ond rydym yn asesu pob cais yn unigol i sicrhau’r gyfatebiaeth orau i bawb sy’n cymryd rhan.
Gwnewch wahaniaeth parhaol — yn union lle’r ydych chi’n byw.
Rydych chi eisoes yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc.
Nawr, gallwch gael yr effaith honno mewn ffordd fwy personol fyth – trwy roi’r diogelwch, y teimlad o berthyn a’r dyfodol y maent yn ei haeddu i berson ifanc.
Ni yw Maethu Cymru Sir y Fflint – rydym yma i’n cymuned, i’n pobl ifanc, ac i chi.